SWS - Social Welsh & Sexy

06.01.2009

Amdanom Ni

Amdanom Ni

Mi ddechreuodd y gymdeithas enfawr yma yng Nghlwb y Groucho yn Llundain pan wnaeth y cynhyrchydd a'r perfformiwr Stifyn Parri wahodd 40 o ffrindiau Cymraeg i ymuno a fo am ddrinc. Heblaw am greu noson dda mi greodd Stifyn blatfform newydd, hyderus a 'cool' nad oedd yn perthyn i unrhyw gymdeithas Gymraeg arall. Mi wnaeth cychwyn SWS helpu cadw Cymru ar y Map yn Llundain a thramor. Mae'r cysyniad yn un syml ond unigryw sy' wedi datblygu i fod yn atyniad i'r papurau newydd, radio a theledu.

Wedi i Stifyn wahodd Sian Phillips i fod yn noddwraig death llawer i seren arall i fod yn aelodau ond rydym yn awyddus i danlinellu mai cymdeithas I BAWB yw SWS. Yr unig reol yw fod pawb sy'n bresennol a diddordeb mewn cymdeithasu a'r Cymry! 'Does dim rhaid i chi allu siarad Cymraeg, dim rheol ar be i wisgo, dim cyfyngder oedran nag agenda politicaidd cuddiedig ac felly dim problem! Yn syml mae'r aelodau yn cael eu gwadd i wahanol leoliadau mwya deniadol y ddinas honno i bartia. Hyd yn hyn mae SWS wedi partia yn rhai o glybiau a barau mwya sexy Llundain, Moscow ac Efrog Newydd.

Mae dros 5,000 o aelodau SWS, ac mae'r nifer yn tyfu'n ddyddiol. Ymunwch nawr!
Mae canghennau SWS a SWSbiz yn cael eu rhedeg gan Mr Producer Ltd

 
 
Cefnogwyr SWS